Byrfoddau ar gyfer labelu gwerthoedd data

Mae rhai tablau ar StatsCymru yn defnyddio symbolau, a elwir hefyd yn fyrfoddau, i roi manylion ychwanegol am werthoedd data penodol. Dyma'r rhain:

ByrfoddYstyrDefnydd
aCyfartaleddMae'r gwerth data yn gyfartaledd o werthoedd eraill
bToriad yn y gyfres amserMae toriad yn y gyfres data sy'n golygu na ellir cymharu data cyn y toriad yn uniongyrchol â data ar ôl y toriad
cGwybodaeth gyfrinacholMae'r gwerth data wedi'i atal am resymau cyfrinachedd
eAmcangyfrifedigMae'r gwerth data yn amcangyfrif
fRhagolwgMae'r gwerth data yn werth a gyfrifwyd ar gyfer y dyfodol yn hytrach na gwerth a arsylwyd
kFfigur iselMae'r gwerth data yn ffigur isel sy'n ymddangos fel sero pan gaiff ei grynhoi
nsDdim yn ystadegol arwyddocaolNid yw'n bosibl pennu a yw'r gwerth data yn ddibynadwy ai peidio
pDros droNid yw'r gwerth data wedi'i derfynu eto, neu disgwylir iddo gael ei ddiwygio
rWedi'i ddiwygioMae'r gwerth data wedi'i ddiwygio ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf
sYstadegol arwyddocaol ar lefel 0.05 neu 5%Mae llai na 5% siawns bod y gwerth data yn annibynadwy
ssYstadegol arwyddocaol ar lefel 0.01 neu 1%Mae llai na 1% siawns bod y gwerth data yn annibynadwy
sssYstadegol arwyddocaol ar lefel 0.001 neu 0.1%Mae llai na 0.1% siawns bod y gwerth data yn annibynadwy
tCyfanswmMae'r gwerth data yn gyfanswm o werthoedd eraill
uDibynadwyedd iselMae'r gwerth data o ansawdd ystadegol isel
wDim wedi'i gofnodi yn yr arolwgNid oes gwerth data wedi'i amcangyfrif ar gyfer y cyfuniad hwn o newidynnau
xDdim ar gaelNid yw'r gwerth data ar gael am resymau anhysbys neu eraill
zDdim yn berthnasolNid oes gwerth data posibl ar gyfer y cyfuniad hwn o newidynnau